top of page

Ein Gwaith

Gwaith Craidd

Ein nod yw cynyddu a chefnogi datblygiad cymunedol, ieithyddol ac economaidd trwy gynnal amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau sy'n targedu teuluoedd, plant a phobl ifanc a'r gymuned er mwyn annog pawb i gael y cyfle i ddefnyddio, ymarfer a chryfhau eu Cymraeg yn ardal Gorllewin Sir Gaerfyrddin. Trwy gynnig blas cychwynnol o'r iaith a diwylliant Cymraeg i lawer, rydym yn gobeithio annog nifer y siaradwyr Cymraeg a helpu i gyfrannu tuag at y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

IMG_3370.JPG

Gŵyl Canol Dre

Cynhaliwyd Gŵyl Canol Dre am y tro cyntaf yn 2018 ym Mharc Myrddin, Caerfyrddin, sef un o brif ddigwyddiadau Cymraeg ardal Caerfyrddin. Mae’r ŵyl yn ddiwrnod o hwyl ac adloniant i bobl o Sir Gâr a thu hwnt wrth gynnwys amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau at ddant pawb, gan gynnwys perfformiadau o gerddoriaeth byw, chwaraeon, llenyddiaeth, celf ac amrywiaeth o weithdai. Mae yna dau lwyfan ar y maes, un yn cynnwys unigolion a bandiau adnabyddus o’r sîn roc Gymraeg yn perfformio ynghyd â pherfformiadau amrywiol gan ysgolion yr ardal. Mae’r ŵyl yn cynnig platfform i fusnesau gydag ardal stondinau i werthu nwyddau a chynnyrch ac i fudiadau lleol i hyrwyddo eu gwasanaethau.

Logo Newydd Profi - Gwyn.png

Cynllun Profi

Nod Cynllun Profi yw gwella sgiliau pobl ifanc er mwyn eu paratoi ar gyfer byd gwaith. Trwy’r cynllun rydym yn darparu cymorth i bobl ifanc i ddod i adnabod eu sgiliau a chryfderau gan gynnwys cyngor ar gyfweliadau, adnabod sgiliau byd gwaith, darganfod cyfleoedd byd gwaith a chymorth CV ac ymgeisio am swyddi. Byddwn yn eu hannog i fanteisio ar gyfleoedd lleol gan gynnwys profiad gwaith, gwirfoddoli, prentisiaethau a swyddi.

Byddwn yn gwireddu hyn trwy fynd allan i ysgolion a cholegau addysg bellach er mwyn cyflwyno gwahanol agweddau o’r cynllun iddynt ar ffurf sgyrsiau a gweithdai ac yn eu hannog i gofrestru ar wefan www.profi.cymru

 

Mae’r wefan yn cynnwys cyngor bachog, digidol, apelgar a fydd o gymorth i gymryd y camau allweddol i fyd gwaith. Mae yna gyfres o bodlediadau a ffilmiau’n rhan o’r wefan er mwyn arddangos y cyfleoedd a’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer sectorau amrywiol. Bydd dysgwyr yn gallu nodi datblygiad eu sgiliau a manteisio ar gynigion arbennig mewn siopau, caffis a sefydliadau trwy ddefnyddio Carden Wobrwyo Profi.


Cer draw i sianel YouTube Menter Gorllewin Sir Gâr os hoffet flas o’n gwaith neu cer i’n gwefan. Os oes unrhyw ymholiad yna cysyllta gyda'r tîm!

Pink Playful Breaking News Announcement Instagram Post.png
Cynllun Profi
MGSG Digidol -  (6).png
MGSG Digiol

Cynllun Digidol

Mae yna ddwy elfen i weithgaredd MGSG Digidol, y cyntaf yw gweithredu cytundebau ar ran y Canolfannau Byd Gwaith i ddarparu sesiynau digidol i unigolion di-waith.  Darperir y sesiynau yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg, Porthcawl, Port Talbot, Castell Nedd, Abertawe, Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro. Mae’r sesiynau yn cynnwys darparu sgiliau digidol sylfaenol, cefnogaeth chwilio ac ymgeisio am swyddi, creu a diweddaru CVs a chefnogaeth i ddefnyddio cyfrifon Credyd Cynhwysol.

 

Yr ail elfen a ddarperir gan MGSG Digidol yw Prosiect Digidol Sir Gâr sy’n cynnig cymorth digidol i unigolion ar ffurf sesiynau anffurfiol ar draws y Sir. Nod y cynllun yw cynnig cymorth digidol amrywiol megis, sut i ddefnyddio Cyfrifiadur, Gliniadur, Tablet/iPad, defnyddio'r We, Apiau a mynediad i wasanaethau ar-lein. Cyllidir y cynllun gan raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

bottom of page