DIOLCH
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae criw o bobl ifanc yr ardal wedi bod yn gwirfoddoli yn nigwyddiadau’r Fenter, megis clybiau drama, Gŵyl Canol Dre, Gŵyl Fach Newy’, Ras fach y wiber a sesiynau amrywiol eraill ac mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn ddiolchgar iawn am eu gwaith a’u hamser. Llongyfarchiadau mawr i Elan Evans, Gwenno Roberts a Mared Alun am gyrraedd 20 awr o wirfoddoli a Gwilym Williams ac Efa Evans am gyrraedd 35 awr. Mae’r 5 wedi cyrraedd y cerrig milltir arbennig yma ac wedi cyfrannu at eu cymunedau trwy eu gwaith.
Mae’r profiad o wirfoddoli’n lleol yn fwy na rhoi rhywbeth nôl i’r gymuned, ond hefyd yn gyfle i fagu hyder, datblygu sgiliau trosglwyddiadau cyffredinol yn ogystal â sgiliau byd gwaith. Mae cyfleoedd gwirfoddoli’r Fenter yn seiliedig ar gyfranogiad sy’n dangos arfer gorau a chynnig cyfle i gymryd cyfrifoldeb ac i wneud penderfyniadau. Mae’r Fenter yn bendant yn gwerthfawrogi gwaith ein gwirfoddolwyr ac yn gweld eu gwerth yn wythnosol. Os oes diddordeb gyda chi mewn gwirfoddoli gyda’r Fenter, cysylltwch gyda ni ar 01239 712934 / ymholiad@mgsg.cymru