top of page
Gŵyl Canol Dre
Beth yw Gŵyl Canol Dre?
Mae’r ŵyl yn ddiwrnod o hwyl ac adloniant i bobl o Sir Gâr a thu hwnt wrth gynnwys amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau at ddant pawb, gan gynnwys perfformiadau o gerddoriaeth byw, chwaraeon, llenyddiaeth, celf ac amrywiaeth o weithdai. Mae yna dau lwyfan ar y maes, un yn cynnwys unigolion a bandiau adnabyddus o’r sîn roc Gymraeg yn perfformio ynghyd â pherfformiadau amrywiol gan ysgolion yr ardal. Mae’r ŵyl yn cynnig platfform i fusnesau gydag ardal stondinau i werthu nwyddau a chynnyrch ac i fudiadau lleol i hyrwyddo eu gwasanaethau. Cynhaliwyd Gŵyl Canol Dre am y tro cyntaf yn 2018 ym Mharc Myrddin, Caerfyrddin, sef un o brif ddigwyddiadau Cymraeg ardal Caerfyrddin.






bottom of page