Cwestiynau Cyffredinol
Pryd fydd yr ŵyl?
Ar y 6ed o Orffennaf, 2024 am 11yb - 9yh.
Ym mhle mae Gŵyl Canol Dre?
Parc Myrddin, Caerfyrddin, SA31 1DS.
Sut mae cyrraedd yr ŵyl?
Cliciwch yma i weld y fideo i ddangos y ffordd i gyrraedd yr ŵyl.
Faint yw pris mynediad i'r ŵyl?
Am ddim!
Pwy all ddod i'r ŵyl?
Mae hon yn ŵyl deuluol felly bydd rhywbeth i blesio pawb.
Beth os dwi'n dysgu Cymraeg?
Wrth gwrs! Bydd gyda ni weithdai a digwyddiadau i bawb. Cymer olwg ar raglen y diwrnod yma.
Beth fydd 'na?
Cerddoriaeth, celf, bwyd a diod, llenyddiaeth, stondinau, chwaraeon, gweithdai a llawer mwy!
A fydd angen i mi ddangos fy ngherdyn adnabod?
Mae'n bosib y gofynir i fynychwyr yr ŵyl ddangos cerdyn adnabod er mwyn profi eu hoed.
A oes unrhyw gyfyngiadau oedran?
Gan taw gŵyl deuluol yw Gŵyl Canol Dre, mae yna groeso i bawb. Gofynnwn yn garedig i blant o dan 11 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Beth yw amserlen yr ŵyl?
Dyma restr o'r holl artistiaid a gweithdai 2024 sydd wedi eu cyhoeddi hyd yma fan hyn. Byddwn yn cyhoeddi mwy yn wythnosol, felly cofiwch edrych ar ein gwefan a/neu cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd.
Ble alla i barcio?
Mae croeso i chi barcio yn un o feysydd parcio yn y dref yng Nghaerfyrddin. Mae pob maes parcio o fewn pellter cerdded i'r ŵyl. Cliciwch yma i weld fideo yn ddangos y ffordd. Mae parcio am ddim ym meysydd parcio'r Cyngor Sir yng Nghaerfyrddin.
Mae gen i fathodyn glas, ble alla i barcio?
Mae yna faes parcio yn rhan o Barc Myrddin. Bydd mynediad i fynywchwyr gyda bathodyn glas. Arddsangoswch eich bathodyn a'i ddangos i'r stiwardiaid wrth y fynedfa.
Faint o'r gloch mae'r fynedfa yn agor?
Bydd y fynedfa yn agor am 11yb.
Beth os bydd hi'n bwrw glaw?
Cofiwch wisgo yn addas ar gyfer y tywydd gan y bydd y prif lwyfan yn yr awyr agored. Serch hynny, bydd y gweithdai yn digwydd dan do mewn pebyll.
Ga i ddod â phicnic?
Mae croeso i chi ddod a phicnic eich hun, ond gofynnwn yn garedig i chi beidio dod a diodydd alcoholig. Bydd gennym amrywiaeth o stondinau bwyd a diod yn ogystal â bar, felly rhywbeth i blesio pawb. Byddwn yn cyhoeddi'r rhestr o'r arlwywyr yma.
A fydd toiledau a chyfleusterau bwydo a newid ar y safle?
Bydd digon o doiledau, toiledau anabl a chyfleusterau bwydo a newid yn yr ŵyl.
Ga i ddod a fy nghi i'r ŵyl?
Ni chaniateir cŵn ag eithrio cŵn cymorth cofrestredig neu gŵn cefnogaeth emosiynol.
A fydd lluniau neu fideos yn cael eu tynnu o'r ŵyl?
Bydd Menter Gorllewin Sir Gâr yn tynnu lluniau a/neu ffilmio yn y digwyddiad. Bydd y delweddau yn cael eu defnyddio yn y ffyrdd canlynol:
-
Cyhoeddusrwydd printiedig yr ŵyl ar Fenter
-
Cyhoeddusrwydd ar-lein yr ŵyl ar Fenter (gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol)
-
Eu rhannu â sefydliadau trydydd parti i'w ddefnyddio i hyrwyddo'r ŵyl
Os byddai’n well gennych i chi neu’ch plentyn beidio â chael eich llun wedi ei thynnu na’ch ffilmio, cysylltwch ag aelod o staff Menter Gorllewin Sir Gâr ar y safle ac e-bostiwch: ymholiad@mgsg.cymru
A fydd unrhyw ddarpariaeth feddygol ar y safle?
Bydd darpariaeth feddygol ar y safle trwy gydol y digwyddiad wedi eu lleoli mewn pabell ger y fynedfa.